Jeremeia 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwrandewch y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel:

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy.

3Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell.

4Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.

5Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.

6Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.

7Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.

8Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.

9Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.

10Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y DUW byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.

11Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.

12Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.

13Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau.

14Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

15Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

16Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw.

17Casgl o’r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.

18Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf.

20Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.

21Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.

22Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.

23Gwn, ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad.

24Cosba fi, ARGLWYDD, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim.

25Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help