Eseia 26 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y dydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; DUW a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur.

2Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.

3Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot.

4Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD byth; oherwydd yn yr ARGLWYDD DDUW y mae cadernid tragwyddol.

5Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch.

6Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion.

7Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.

8Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom, ARGLWYDD; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth.

9A’m henaid y’th ddymunais liw nos; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear.

10Gwneler cymwynas i’r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr ARGLWYDD.

11Ni welant, ARGLWYDD, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a’u hysa hwynt.

12 ARGLWYDD, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni.

13O ARGLWYDD ein DUW, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw.

14Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.

15Ychwanegaist ar y genedl, O ARGLWYDD, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear.

16Mewn adfyd, ARGLWYDD, yr ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt.

17Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i esgor; felly yr oeddem o’th flaen di, ARGLWYDD.

18Beichiogasom, gofidiasom, oeddem fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant.

19Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a’r ddaear a fwrw y meirw allan.

20Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio.

21Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod allan o’i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help