1Os gwnei ddaioni, gwybydd i bwy y gwnelych; ac fe fydd diolch i ti am dy ddaioni.
2Gwna ddaioni i’r duwiol, a thi a gei dâl; oni chei ganddo ef, ti a’i cei gan y Goruchaf.
3Ni bydd daioni i’r hwn a ymgynefino â drygioni, nac i’r hwn nid ymedy ag elusen.
4Dod i’r duwiol, ac na dderbyn bechadur.
5Gwna ddaioni i’r gostyngedig, ac na ddod i’r annuwiol: atal dy fara, ac na ddod iddo ef; rhag trwy hynny iddo dy orthrymu di: oblegid am yr holl ddaioni a wnelych di iddo ef, efe a gaiff ddau cymaint o ddrygioni i tithau.
6Oherwydd cas gan y Goruchaf bechaduriaid, ac efe a ddial y rhai duwiol, ac a’u ceidw hwythau i gadarn ddydd eu dialedd.
7Dod i’r daionus, ac na dderbyn bechadur.
8Nid adwaenir cyfaill mewn gwynfyd, ac ni lecha gelyn mewn drygfyd.
9Mewn gwynfyd gŵr y bydd ei elynion yn drist; ac yn ei ddrygfyd yr ymneilltua cyfaill hefyd.
10Nac ymddiried i’th elyn byth: oblegid fel y rhyda pres, felly y gwna ei ddrygioni yntau.
11Er ymostwng ohono, ac ymgrymu, gwylia ar dy enaid, ac ymgadw rhagddo ef; a thi a fyddi iddo fel un yn sychu drych, a thi a gei wybod na sychodd efe ei rwd yn llwyr.
12Na osod ef yn agos atat, rhag iddo dy ddinistrio di, a sefyll yn dy le di: na osod ef ar dy law ddeau, rhag iddo geisio cael dy gadair di, ac o’r diwedd cael ohonot wybod fy ngeiriau i, a’th bigo â’m hymadroddion.
13Pwy a dosturiai wrth y swynwr a frathai neidr? nac wrth y neb a ddeuai yn agos at fwystfilod?
14Felly wrth yr hwn a ddaw at bechadur, ac a gydlygrer yn ei bechodau ef, pwy a dosturia wrtho?
15Un awr yr erys efe mewn sefyllfod iawn; ond os gogwyddi di, ni erys efe.
16Melys fydd gelyn yn ei wefusau, ac yn ei galon efe a ymgynghora am dy droi di i’r ffos: efe a wyla â’i lygaid; ond os caiff efe amser cyfaddas, ni chaiff efe ei ddigon o waed.
17Os drygfyd a ddigwydd i ti, ti a’i cei ef yno yn gyntaf; ac fel dyn yn helpio, efe a’th ddisodla di.
18Efe s ysgwyd ei ben, ac a gur â’i ddwylo, ac a siarad lawer, ac a newidia ei wynepryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
