Eseia 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.

2Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno.

3A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd ARGLWYDD y lluoedd.

4Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha.

5Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

6Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd ARGLWYDD DDUW Israel.

7Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:

8Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau.

9Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd-dra.

10Oherwydd anghofio ohonot DDUW dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr.

11Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

12Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.

13Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a DUW a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt.

14Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help