2 Thesaloniaid 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist:

2Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.

3Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;

4Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:

5Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

6Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi;

7Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, gyda’i angylion nerthol,

8A thân fflamllyd, gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

9Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

10Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.

11Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:

12Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help