Diarhebion 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:

2Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.

5Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.

6Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

7Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.

8Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.

9Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:

10Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.

11Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;

12Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

13Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan.

14Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

15Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

16Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.

17Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

18Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

19Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.

20Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.

22Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf.

23Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda.

24Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.

25Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.

26Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

28Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.

29Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

31Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.

32Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

33Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig.

35Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help