Job 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A job a atebodd ac a ddywedodd,

2Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.

3Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?

4Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.

6Os llefaraf fi, nid esmwythâ fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

7Ond yn awr efe a’m blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

8A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

10Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

11DUW a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion.

12Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun.

13Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.

14Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.

15Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch.

16Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:

17Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur.

18O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd.

19Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder.

20Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth DDUW.

21O na châi un ymddadlau â DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!

22Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help