2 Corinthiaid 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch:

2Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.

3A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.

5Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.

6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.

7Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:

9(Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.

10A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)

11Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;

13Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;

14A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.

15Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help