1 Timotheus 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr;

2Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.

3Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.

4Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.

5Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.

6Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.

7A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.

8Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di-ffydd.

9Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,

10Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;

12Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.

13A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.

14Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi.

15Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan.

16Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.

17Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth.

18Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

19Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.

20Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.

21Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.

22Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid.

24Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

25Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen; a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help