1Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.
2Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.
3Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.
4Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.
5Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.
6Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.
7Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.
8Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf.
9Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.
10Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.
11Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
