Y Salmau 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 15Salm Dafydd.

1 ARGLWYDD, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?

2Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:

3Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog.

4Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr ARGLWYDD: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia.

5Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help