Seffaneia 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.

2Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

3Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

4Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid;

5A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;

6A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a’r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano.

7Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.

8A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.

9Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll.

10A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau.

11Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.

12A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg.

13Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin.

14Agos yw mawr ddydd yr ARGLWYDD, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr ARGLWYDD: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.

15Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.

16Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.

17A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom.

18Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr ARGLWYDD; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help