1 Brenhinoedd 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.

2A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r ARGLWYDD oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.

3A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd â lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.

4Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.

5Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.

6Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei lled, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.

7A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.

8Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.

9Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.

10Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.

11A daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddywedyd,

12Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:

13A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.

14Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd.

15Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.

16Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i’r gafell, i’r cysegr sancteiddiolaf.

17A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.

18A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.

19A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr ARGLWYDD.

20A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.

21Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur.

22A’r holl dŷ a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.

23Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder.

24A’r naill adain i’r ceriwb oedd bum cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gwr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef.

25A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.

26Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.

27Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd.

28Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur.

29A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.

30Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

31Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared.

32Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd.

33Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared.

34Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall.

35Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.

37Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr ARGLWYDD, ym mis Sif:

38Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help