Y Salmau 67 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 67I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.

1Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:

2Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.

3Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.

4Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.

5Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.

6Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.

7 DUW a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help