Rhufeiniaid 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân,

2Fod i mi dristyd mawr, a gofid di-baid i’m calon.

3Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:

4Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion;

5Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.

6Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi-rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel.

7Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had.

8Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.

9Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.

10Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac;

11(Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;)

12Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.

13Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.

14Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw.

15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

16Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.

17Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear.

18Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.

19Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?

20Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn?

21Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch?

22Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:

23Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant,

24Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd?

25Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl.

26A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw.

27Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.

28Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear.

29Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.

30Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:

31Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder.

32Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;

33Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help