1 Pedr 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;

2Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.

3Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:

4Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd:

5Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw.

6Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd.

7Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau.

8Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.

9Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach.

10Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw.

11Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.

12Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:

13Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu.

14Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.

15Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill:

16Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran.

17Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw?

18Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur?

19Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help