1Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.
2Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.
3Ym mhob lle y mae llygaid yr ARGLWYDD, yn canfod y drygionus a’r daionus.
4Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.
5Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.
6Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.
7Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.
8Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.
9Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.
10Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw.
11Uffern a dinistr sydd gerbron yr ARGLWYDD: pa faint mwy, calonnau plant dynion?
12Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion.
13Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.
14Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.
15Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.
16Gwell yw ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.
17Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.
18Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.
19Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.
20Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.
21Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.
22Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.
23Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!
24Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry.
25Yr ARGLWYDD a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.
26Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.
27Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.
28Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.
29Pell yw yr ARGLWYDD oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.
30Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.
31Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.
32Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.
33Addysg doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
