1Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra,
2Amareia, Maluch, Hattus,
3Sechaneia, Rehum, Meremoth,
4Ido, Ginnetho, Abeia,
5Miamin, Maadia, Bilga,
6Semaia, a Joiarib, Jedaia,
7Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua.
8A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr.
9Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
10A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada,
11A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua.
12Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau-cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan;
14O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;
15O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;
16O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;
17O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;
18O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;
19Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;
20O Salai, Calai; o Amoc, Eber;
21O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau-cenedl: a’r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
23Meibion Lefi, y pennau-cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
24A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr DUW, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.
26Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd.
27Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
29Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.
30Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur.
31A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
32Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,
33Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,
34Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia,
35Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff;
36A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt.
37Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain.
38A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;
39Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
40Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:
41Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:
42Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.
43A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
44A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
45Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.
46Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW.
47Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.