1Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.
2Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.
3Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.
4Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.
5Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.
6Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
7Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
8Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
9Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
10Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb.
11Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega.
12Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.
13Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
14Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
15Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
16Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
17Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
18Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
19Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.
20Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.
21Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn.
22Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.
23Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.
24Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser.
25Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
