1Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd-dra.
3Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o’i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.
4Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y’th wneuthum yn warth i’r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i’r holl wledydd.
5Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthyt a’th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod.
6Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.
7Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â’r dieithr o’th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a’r weddw.
8Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.
9Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o’th fewn.
10Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.
11Gwnâi ŵr hefyd ffieidd-dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.
12Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr ARGLWYDD DDUW.
13Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd-dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o’th fewn.
14A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais, ac a’i gwnaf.
15Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i’th aflendid ddarfod allan ohonot.
16A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
17A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
18Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.
19Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.
20Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i’w toddi; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi, ac a’ch gadawaf yno, ac a’ch toddaf.
21Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.
22Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.
23A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
24Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter.
25Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn.
26Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.
27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
28Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a’r ARGLWYDD heb ddywedyd.
29Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a’r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn.
30Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais.
31Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.