Ecclesiasticus (Sirach) 51 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 51

1Clodforaf di, O Arglwydd Frenin; a moliannaf di, fy Nuw a’m Hiachawdwr; dy enw di a glodforaf.

2Oblegid ti sydd yn amddiffynnydd ac yn help i mi, ac a waredaist fy nghorff rhag dinistr, a rhag magl tafod enllibus, rhag gwefusau a ddychmygant gelwydd; ie, yn erbyn y rhai sydd yn cyfodi i’m herbyn yr ydwyt ti yn help i mi;

3Gwaredaist fi yn ôl amldra dy drugaredd a mawredd dy enw rhag dannedd y rhai oedd barod i’m bwyta, ac o law y rhai oedd yn ceisio fy enaid, ac o lawer o flinderau, y rhai a gefais;

4Rhag i’r tân fy mygu o amgylch, ac o ganol y tân yr hwn nis cyneuais;

5Felly y’m gwaredaist o waelod bol uffern, rhag tafod aflan, a rhag chwedl celwyddog.

6A rhag anair gyda’r brenin trwy dafod anghyfiawn, fy enaid a aeth yn agos i angau, a’m heinioes oedd yn agos i uffern isaf.

7Hwy a’m hamgylchynasant o bob tu, ac nid oedd a’m helpiai: mi a edrychais am help dyn, ac nid oedd dim.

8Am hynny mi a gofiais dy drugaredd di, O Arglwydd, a’th weithredoedd gynt, dy fod di yn achub y rhai dioddefgar, ac yn eu hachub hwynt o law y gelynion.

9A mi a ddyrchefais fy ngweddi o’r ddaear, ac a ddeisyfais ymwared rhag marwolaeth:

10Ac a ddeisyfais ar yr Arglwydd, tad fy Arglwydd, na adawai efe fyfi yn nydd trallod, y pryd ni cheid help gan y beilchion.

11Mi a foliannaf dy enw di yn wastadol, ac a’th glodforaf di yn fy nghyffes; a’m gweddi a wrandawyd:

12Oblegid ti a’n cedwaist ni rhag dinistr, ac a’m gwaredaist i o’r amser drwg: am hynny y clodforaf a moliannaf di, ac a fendithiaf dy enw, O Arglwydd.

13A myfi eto yn ieuanc, cyn fy nhwyllo, mi a ofynnais ddoethineb yn eglur yn fy ngweddi.

14O flaen y deml y gweddïais amdani hi, a hyd y diwedd y ceisiaf hi.

15Ie, o’r blodeuyn, nes aeddfedu’r grawnwin, yr ymhyfrydodd fy nghalon ynddi; fy nhroed a rodiodd yn union; mi a’i holrheiniais hi o’m hieuenctid.

16Mi a ostyngais ychydig ar fy nghlust, ac a’i derbyniais hi, ac a gefais lawer o ddysg.

17Mi a euthum rhagof ynddi hi: am hynny i’r hwn a roddes i mi ddoethineb y rhoddaf fi y gogoniant.

18Oblegid mi a roddais fy mryd ar wneuthur ar ei hôl hi, a dilyn daioni; ac felly ni’m gwaradwyddir.

19Fy enaid a ymdrechodd â hi, ac mi a fûm ddiwyd yn fy ngweithredoedd: mi a estynnais fy nwylo tua’r nef i fyny, ac a ddeellais beth oedd fod heb ei hadnabod hi.

20Mi a gyfarwyddais fy enaid ati, ac a’i cefais hi mewn puredd: cefais fy nghalon wedi ei chysylltu â hi o’r dechreuad; am hynny ni’m gwrthodir.

21Fy nghalon a gafodd helbul yn ei cheisio hi: am hynny mi a gefais gyfoeth da.

22Yr Arglwydd a roddes dafod yn wobr i mi, a mi a’i moliannaf ef â hwnnw.

23Nesewch ataf fi, O annysgedig, ac arhoswch yn nhŷ athrawiaeth.

24Paham yr ydych chwi yn oedi? neu beth a ddywedwch chwi am hyn, gan fod ar eich eneidiau chwi syched mor ddirfawr?

25Mi a agorais fy ngenau, ac a leferais, Prynwch hi i chwi heb arian.

26Gostyngwch eich gyddfau dan yr iau, a derbynied eich enaid athrawiaeth: hawdd yw ei chael hi.

27Gwelwch â’ch llygaid gymryd ohonof fi boen, a chael ohonof fi i mi fy hun esmwythdra mawr.

28Mynnwch gyfran o addysg am nifer mawr o arian, a meddiennwch aur lawer trwyddi hi.

29Llawenyched eich calon yn ei drugaredd ef, ac na fydded yn gywilydd gennych ei foliannu ef.

30Gwnewch eich gwaith mewn pryd, ac efe a rydd i chwi eich gwobr yn ei amser.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help