II Macabeiad 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 5

1Ynghylch yr amser hwnnw Antiochus a ddarparodd ei ail daith i’r Aifft.

2A’r pryd hynny digwyddodd trwy’r holl ddinas dros ddeugain niwrnod agos, fod gwŷr meirch yn rhedeg yn yr awyr, mewn gwisgoedd aur, a lluoedd o wŷr â gwaywffyn,

3A megis tyrfâu o wŷr meirch mewn byddin, yn ymdrechu ac yn rhedeg y naill yn erbyn y llall, dan ysgwyd eu tarianau, a llaweroedd o bicellau, a thynnu cleddyfau, a saethu saethau, a disgleirdeb eu harfau aur, a phob math ar lurigau.

4Am hynny pob dyn a weddïodd ar ddyfod o’r arwyddion hynny i ddaioni.

5Yr awron pan aeth chwedl celwydd allan, megis pe newidiasai Antiochus fyd, Jason a gymerth nid llai na mil o wŷr, ac a ruthrodd yn ddisymwth ar y ddinas; ac wedi gorchfygu’r rhai oedd ar y gaer, ac o’r diwedd ennill y ddinas, fe a ffodd Menelaus i’r castell.

6Ond Jason a laddodd ei ddinaswyr ei hunan, heb arbed un; heb feddwl fod llwyddiant yn erbyn ei genedl yn fwyaf aflwyddiant, ond gan dybied orchfygu ohono ei elynion, nid ei gydwladwyr.

7Er hynny ni chafodd efe yr oruchafiaeth, ond yn niwedd ei gynllwyn efe a gafodd gywilydd, ac a ffodd drachefn, ac a aeth i wlad yr Ammoniaid.

8Am hynny efe a gafodd ddiwedd ei ddrwg fuchedd, sef efe a garcharwyd gydag Aretas brenin yr Arabiaid, ac a ffodd o ddinas i ddinas, a phawb yn ei ymlid ac yn ei gasáu megis gwrthodwr y gyfraith, ac yn ei felltithio megis gelyn ei wlad a’i ddinaswyr, efe a fwriwyd allan i’r Aifft.

9A’r hwn a barasai i lawer grwydro allan o’u gwlad, a ddarfu amdano ei hun allan o’i wlad, wedi iddo fyned at y Lacedemoniaid, dan obaith cael yno swcr, oherwydd carennydd.

10A’r hwn a fwriasai allan liaws heb eu claddu, ni alarodd neb drosto, ac ni chafodd fedd yn y byd, ie, ni chafodd feddrod ei dadau.

11Ond pan wybu’r brenin y pethau hynny, efe a feddyliodd y syrthiai’r Iddewon oddi wrtho am y pethau a wnaethid: am hynny efe a ddaeth yn gynddeiriog o’r Aifft, ac a enillodd y ddinas ag arfau;

12Ac a orchmynnodd i’w filwyr nad arbedent neb a gyfarfyddai â hwynt, a lladd y neb a ddringai i’w tai.

13Felly y gwnaed lladdfa ar wŷr ieuainc a hynafgwyr, a dinistr ar wŷr a gwragedd a phlant; a gwyryfon a bechgyn a ddifethwyd;

14Yn gymaint â difetha ohonynt bedwar ugain mil mewn tri diwrnod: deugain mil a gaethgludwyd, ac eraill nid llai na’r rhai a laddasid, a werthwyd.

15Ac heb fod yn fodlon er hyn, efe a feiddiodd fyned i mewn i’r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd, gan gael iddo yn flaenor Menelaus, yr hwn oedd fradychwr ei wlad a’r gyfraith:

16Ac â dwylo ysgeler efe a gymerodd y llestri sanctaidd, a pha beth bynnag a roddasid yno i’w cadw gan frenhinoedd eraill, er cynnydd a gogoniant ac anrhydedd i’r man hwnnw, efe a’u teimlodd â dwylo aflan.

17Balchïodd Antiochus hefyd, heb ystyried mai oblegid pechodau y rhai a breswylient yn y ddinas y digiasai’r Arglwydd dros ychydig, ac am hynny bod dirmyg ar y man hwnnw.

18Canys oni buasai iddynt hwy ymdroi o’r blaen mewn cynifer o bechodau, hwn hefyd er cynted ag y daethai i mewn, wedi ei fflangellu yn ddisymwth, a droesid oddi wrth ei hyfder, megis Heliodorus, yr hwn a ddanfonasid oddi wrth Seleucus y brenin i weled y trysordy.

19Ond nid oherwydd y lle y dewisasai’r Arglwydd y bobl, ond oherwydd y bobl y dewisasai efe y lle:

20Ac am hynny y lle hwnnw, yr hwn a fu yn gyfrannog o adfyd y bobl, a wnaed wedi hynny yn gyfrannog o ddoniau’r Arglwydd; a’r hwn a wrthodwyd yn nigofaint yr Hollalluog, a gyweiriwyd drachefn â phob gogoniant trwy gymod yr Arglwydd goruchaf.

21Am hynny Antiochus, wedi dwyn allan o’r deml fil a phedwar ugain talent, a aeth yn gyflym i Antiochia, gan dybied o wir falchder y gallai efe wneuthur y tir yn fôr, a’r môr hefyd yn dir i’w gerdded ar draed: cyfryw falchder oedd ynddo.

22Ond efe a adawodd swyddogion i orthrymu’r bobl, sef yn Jerwsalem, Philip, gŵr o Phrygia, yr hwn oedd yn ei arferion yn greulonach na’r hwn a’i gosodasai ef;

23Ac yn Garisim, Andronicus; a hefyd Menelaus, yr hwn oedd flinach i’r dinaswyr na’r lleill i gyd, a chanddo feddwl cenfigennus yn erbyn yr Iddewon ei wladwyr.

24Ac efe a ddanfonodd Apolonius, tywysog melltigedig, â llu o ddwy fil ar hugain, gan orchymyn iddynt ladd pawb a’r oedd mewn oedran, ond gwerthu’r gwragedd a’r rhai ieuainc.

25Yntau, pan ddaeth i Jerwsalem, a gymerodd arno fod yn heddychol, ac a ymataliodd hyd y sanctaidd ddydd Saboth; ac yna yn cael yr Iddewon yn cadw gŵyl, efe a orchmynnodd i’w ryfelwyr gymryd eu harfau.

26Ac felly efe a laddodd bawb a’r a aethai allan i edrych arnynt, a chan redeg yma a thraw trwy’r ddinas mewn arfau, efe a laddodd liaws.

27Ond Jwdas Macabeus, a naw eraill gydag ef, a giliodd i’r anialwch; ac efe a’i gydymdeithion a fu fyw yn y mynyddoedd fel anifeiliaid, gan fwyta beunydd y glaswellt, rhag eu gwneuthur yn gyfranogion o’r ffieidd-dra hwnnw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help