II Macabeiad 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 3

1Y cyfamser yr oeddid yn preswylio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn cadw’r cyfreithiau yn dda iawn, oblegid duwioldeb Oneias yr archoffeiriad, ac oherwydd ei fod yn casáu pob drygioni,

2Digwyddodd i’r brenhinoedd a’r tywysogion farnu’r lle yn anrhydeddus, ac anrhegu’r deml â’u rhoddion gorau;

3Yn gymaint ag i Seleucus brenin Asia, dalu o’i ardrethion yr holl draul a berthynai i weinidogaeth yr ebyrth.

4Ond un a elwid Simon, o lwyth Benjamin, yr hwn a wnaethid yn oruchwyliwr ar y deml, a ymrafaeliodd â’r archoffeiriad i wneuthur diffeithwch yn y ddinas.

5Ond pryd nas gallai orchfygu Oneias, efe a aeth at Apolonius fab Thraseas, yr hwn oedd yr amser hwnnw yn llywodraethwr ar Celo-Syria a Phenicia;

6Ac a fynegodd iddo fod trysordy Jerwsalem yn llawn o arian annifeiriol, fel yr oedd lluosowgrwydd eu cyfoeth yn aneirif, y rhai ni pherthynent i weinidogaeth yr ebyrth, a bod yn bosibl dwyn y cwbl i ddwylo’r brenin.

7Wedi ymgyfarfod o Apolonius â’r brenin, efe a fynegodd iddo am yr arian a ddangosasid iddo: yntau a etholodd Heliodorus golygwr ei drysordy, ac a’i danfonodd â gorchymyn ganddo i gyrchu’r arian y dywedwyd amdanynt o’r blaen.

8Am hynny Heliodorus yn y man a gychwynnodd i’w daith, yn rhith myned i ymweled â dinasoedd Celo-Syria a Phenicia, ond â’i feddwl ar gyflawni arfaeth y brenin.

9Yn ôl dyfod ohono i Jerwsalem, a’i dderbyn yn groesawus gan archoffeiriad y ddinas, efe a draethodd iddynt beth a ddangosasid iddo am yr arian, ac a fynegodd paham y daethai efe yno; ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wir.

10Yna’r archoffeiriad a ddangosodd iddo fod yno y cyfryw arian wedi eu rhoi i gadw i ymgeleddu y gweddwon a’r amddifaid;

11A rhai yn eiddo Hyrcanus mab Tobeias, gŵr ardderchog iawn, ac nid fel y camddywedasai Simon, y dyn annuwiol hwnnw, a bod y cwbl yn bedwar can talent o arian, a dau cant o aur:

12Ac nad ydoedd bosibl gwneuthur y fath gam â’r rhai a ymddiriedasent i sancteiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd a difrycheulyd grefydd y deml, yr hon oedd anrhydeddus trwy’r holl fyd.

13Ond Heliodorus, oherwydd gorchmynion y brenin, y rhai oedd ganddo, a ddywedodd yn hollol y byddai raid dwyn yr arian i drysordy’r brenin.

14Ac wedi gosod dydd, efe a aeth i mewn, ar fedr, yn ôl eu gweled, gymryd trefn amdanynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.

15A’r offeiriaid a syrthiasant i lawr gerbron yr allor yn eu gwisgoedd sanctaidd, ac a alwasant tua’r nef ar Dduw, yr hwn a roesai gyfraith am y trysor sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i’r rhai a’i rhoddasai yno i’w gadw.

16A’r neb a edrychai ar wynepryd yr archoffeiriad a ddoluriai yn ei galon: canys ei wynepryd, a newidiad ei liw, oedd yn dangos cyfyngder ei galon.

17Canys rhyw ofn a dychryn corff a amgylchodd y gŵr hwnnw, fel yr oedd eglur i’r rhai a edrychent arno, y dolur oedd yn ei galon ef.

18Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan o’u tai, i wneuthur gweddi gyffredin, oherwydd bod y lle yn debyg i ddyfod i ddirmyg.

19Y gwragedd hefyd, wedi ymwregysu â lliain sach dan eu bronnau, a lanwent yr ystrydoedd: a’r gwyryfon, y rhai a gaeasid i mewn, a redent, rhai i’r pyrth, a rhai i’r caerau, a rhai eraill a edrychent allan trwy’r ffenestri:

20A phawb ohonynt yn codi eu dwylo tua’r nef, ac yn gweddïo.

21Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr o bob math, a disgwyliad yr archoffeiriad yn ei fawr ofid.

22Am hynny y rhai hyn a alwasant ar yr hollalluog Arglwydd, ar iddo gadw yn ddiogel ac yn sicr y pethau a roddasid i’w cadw mewn ymddiried, i’r rhai a’u rhoddasent i’w cadw.

23Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethasai efe.

24Eithr fel yr oedd efe ei hun eto yn bresennol gyda’i sawdwyr wrth y trysordy, efe, yr hwn yw Arglwydd yr ysbrydion, a thywysog pob gallu, a wnaeth ryfeddod mawr, yn gymaint ag i bawb a feiddient ddyfod gydag ef ryfeddu wrth weled nerth rhinwedd Duw; a hwy a lesmeiriasant, ac a ddychrynasant yn ddirfawr:

25Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisg hardd o’r orau, ac arno farchog ofnadwy, ac a redodd yn egnïol, ac a drawodd Heliodorus â’i garnau blaen: a’r hwn oedd yn eistedd arno a dybid fod ganddo arfau o aur.

26Hefyd fe a ymddangosodd ger ei fron ef ddau ŵr ieuainc eraill, nodedig o nerth, rhagorol o bryd, a hardd eu dillad, yn sefyll yn ei ymyl ef o bob tu iddo, ac a’i ffrewyllasant ef yn wastad, ac a roesant iddo lawer gwialennod dost.

27Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymwth, ac wedi ei amgylchu â thywyllwch mawr, ei wŷr a’i cipiasant ef, ac a’i gosodasant mewn elor feirch:

28Ef, yr hwn a ddaethai ychydig o’r blaen i mewn i’r trysordy â thyrfa fawr, ac â’i holl gard gydag ef, ef, meddaf, yr hwn ni allai gael dim cymorth gan ei arfau, a ddygasant hwy allan: a hwy a gydnabuant allu Duw yn eglur:

29Canys yr oedd efe yn fud trwy waith Duw, ac yn gorwedd wedi ei ddiddymu o’i holl obaith am ei iechyd.

30Hwythau a folianasant yr Arglwydd, yr hwn yn rhyfeddol a ogoneddasai ei le ei hunan: oblegid y deml honno, yr hon oedd ychydig o’r blaen yn llawn o ofn a therfysg, pan ymddangosodd yr hollalluog Arglwydd, a lanwyd â llawenydd ac â gorfoledd.

31Ond yn y man, rhai o gyfnesaf Heliodorus a atolygasant i Oneias weddïo ar y Goruchaf, ar iddo ganhiadu yn rasusol einioes iddo ef, yr hwn oedd yn gorwedd yn agos i farw.

32Yna’r archoffeiriad, yn ofni rhag i’r brenin dybied i’r Iddewon wneuthur rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymodd dros iechyd y gŵr hwnnw.

33Fel yr oedd yr archoffeiriad yn gweddïo ar Dduw, yr unrhyw wŷr ieuainc yn yr unrhyw ddillad a ymddangosasant drachefn i Heliodorus, a chan sefyll a ddywedasant, Dyro fawr ddiolch i Oneias yr archoffeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr Arglwydd i ti dy einioes.

34Tithau hefyd, wedi dy guro o’r nefoedd, mynega i bawb alluocaf nerth Duw. Ac yn ôl dywedyd hyn, hwy a ddiflanasant.

35Heliodorus hefyd, wedi iddo offrymu aberth i’r Arglwydd, a gwneuthur mawr addunedau i’r hwn a ganiatasai iddo ei hoedl, ac wedi iddo gyfarch Oneias, a ddychwelodd, efe a’i lu, at y brenin:

36Gan dystiolaethu i bawb weithredoedd mawrion Duw, y rhai a welsai efe â’i lygaid.

37Hefyd pan ofynnodd y brenin i Heliodorus pwy oedd gymesur i’w ddanfon unwaith drachefn i Jerwsalem, efe a ddywedodd,

38Od oes gennyt un gelyn, neu un bradwr, danfon hwn yno, a thi a’i derbynni wedi ei ffrewyllu, os dianc rhag colli ei hoedl: oblegid yn y man hwnnw y mae yn ddiamau enwedig allu Duw.

39Canys yr hwn sy ganddo breswylfa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynorthwywr i’r lle hwnnw; yr hwn sydd yn curo ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i wneuthur niwed iddo.

40Hyn a fu am Heliodorus, a chadwedigaeth y drysorfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help