Eseciel 30 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Udwch, Och o’r diwrnod!

3Canys agos dydd, ie, agos dydd yr ARGLWYDD, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe.

4A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.

5Ethiopia, a Libya, a Lydia, a’u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf.

6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd DDUW.

7A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.

8A chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.

9Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.

10Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon.

11Efe a’i bobl gydag ef, y rhai trawsion o’r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd.

12Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr ARGLWYDD a’i dywedodd.

13Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.

14Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.

15A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.

16A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.

17Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed.

19Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

20Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

21Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf.

22Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef.

23A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

24A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig.

25Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft.

26A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help