1 Samuel 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel.

2Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba.

3A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn.

4Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama,

5Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.

6A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

7A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt.

8Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti.

9Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

10A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.

11Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:

12Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

13A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

14Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision.

15Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision.

16Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith.

17Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

18A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw.

19Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni:

20Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.

21A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr ARGLWYDD.

22A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help