1 Samuel 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi.

2Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion.

3Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.

4A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.

5Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul.

6Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe.

7Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd.

8Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.

9A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr ARGLWYDD yw efe.

11Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi.

12Barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, a dialed yr ARGLWYDD fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

13Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

14Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen.

15Am hynny bydded yr ARGLWYDD yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di.

16A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

17Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.

18A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist.

19Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr ARGLWYDD a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.

20Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.

21Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r ARGLWYDD, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad.

22A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help