Y Salmau 149 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 149

1Molwch yr ARGLWYDD. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.

2Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.

3Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.

4Oherwydd hoffodd yr ARGLWYDD ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.

5Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.

6Bydded ardderchog foliant DUW yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;

7I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;

8I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;

9I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help