Jeremeia 47 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.

3Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo:

4O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.

5Moelni a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di?

6O cleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd ni lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw.

7Pa fodd y llonydda efe, gan i’r ARGLWYDD ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help