Y Salmau 128 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 128Caniad y graddau.

1Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

2Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.

3Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.

4Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD.

5Yr ARGLWYDD a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.

6A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help