1Oddi wrth yr Arglwydd y daeth pob doethineb, a chydag ef y mae hi byth.
2Pwy a rif dywod y môr, a’r dafnau glaw, a dyddiau tragwyddoldeb?
3Pwy a olrhain allan uchder y nefoedd, a lled y ddaear, a’r dyfnder, a doethineb?
4Crewyd doethineb yn gyntaf o’r cwbl, a deall synnwyr erioed.
5Ffynnon doethineb yw gair Duw Goruchaf; a’i ffyrdd hi yw y gorchmynion tragwyddol.
6I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb, a phwy a wybu ei chynghorion doeth hi?
7I bwy yr eglurwyd gwybodaeth doethineb? a phwy a ddeallodd ei hamryw ffyrdd hi?
8Un sy ddoeth i’w ofni yn fawr, yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfainc:
9Yr Arglwydd a’i creodd hi, ac a’i gwelodd, ac a’i rhifodd, ac a’i tywalltodd hi ar ei holl waith.
10Y mae hi gyda phob cnawd, yn ôl ei roddiad ef; ac efe a’i rhoddes hi i’r neb a’i carant ef.
11Anrhydedd, a gogoniant, a hyfrydwch, a choron gorfoledd, yw ofn yr Arglwydd.
12Ofn yr Arglwydd sy ddifyrrwch i’r galon, ac a rydd lawenydd, a hyfrydwch, a hir hoedl.
13Yn y diwedd da fydd i’r hwn a ofno’r Arglwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd diwedd.
14Dechrau doethineb yw ofni’r Arglwydd; ac efe a grewyd gyda’r ffyddloniaid yn y groth.
15Hi a osododd sylfaen dragwyddol gyda dynion, a chyda’u hiliogaeth hwynt y pery hi.
16Ofn yr Arglwydd yw cyflawnder doethineb, ac sydd yn llenwi dynion a’i ffrwyth hi.
17Hi a lanwodd eu holl dai hwynt a’i phethau dymunol, a’u hysguboriau a’i chnwd.
18Coron doethineb, yn dwyn allan ffrwyth heddwch a iachawdwriaeth iachol, yw ofn yr Arglwydd; a dawn Duw yw pob un o’r ddau: ac y mae hi yn helaethu gorfoledd i’r rhai a’i carant ef.
19Doethineb a lawiodd ddeall, a gwybodaeth synnwyr, ac a ddyrchafodd ogoniant y rhai a lynant ynddi.
20Gwreiddyn doethineb yw ofni’r Arglwydd, a’i changhennau ydynt hir hoedl.
21Ofn yr Arglwydd sydd yn gyrru pechodau ymaith, ac yn troi digofaint ymaith, lle y byddo hi yn bresennol.
22Ni ddichon gŵr dicllon gael ei gyfrif yn gyfiawn; oblegid athrylith ei ddicllonedd a fydd yn dramgwydd iddo.
23Y dioddefgar a ddioddef dros amser; ac wedi hynny y blagura llawenydd iddo ef:
24Efe a guddia ei eiriau dros amser; a gwefusau llawer a fynegant ei synnwyr ef.
25Yn nhrysorau doethineb y mae damhegion gwybodaeth: eithr ffiaidd yw duwioldeb gan bechadur.
26Os chwenychi ddoethineb, cadw’r gorchmynion; a’r Arglwydd a’i rhydd hi i ti.
27Oblegid doethineb ac athrawiaeth yw ofn yr Arglwydd; a bodlon yw ganddo ffydd ac addfwyndra.
28Nac amau ofn yr Arglwydd, pan fyddech mewn angen: ac na ddos ato ef â chalon ddauddyblyg.
29Na ragrithia o flaen dynion, eithr edrych beth a ddywedych.
30Na ddyrchafa dydi dy hun, rhag i ti syrthio, a dwyn amarch i’th enaid dy hun, ac i’r Arglwydd ddatguddio dy holl gyfrinach di, a’th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa, am na ddaethost mewn gwirionedd at ofn yr Arglwydd, eithr bod dy galon yn llawn twyll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.