1Felly Abeia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.
2Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.
3Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:
4Ac a orchmynnodd i Jwda geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn.
5Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef.
6Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny; oblegid yr ARGLWYDD a roddasai lonyddwch iddo.
7Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o’n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr ARGLWYDD ein DUW, ni a’i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.
8Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus.
9A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa.
10Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa.
11Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein DUW; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O ARGLWYDD, ein DUW ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.
12Felly yr ARGLWYDD a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a’r Ethiopiaid a ffoesant.
13Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn.
14A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar; canys yr oedd dychryn yr ARGLWYDD arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd; canys anrhaith fawr oedd ynddynt.
15Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy, ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerwsalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
