Y Salmau 94 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 94

1O ARGLWYDD DDUW y dial, O DDUW y dial, ymddisgleiria.

2Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.

3Pa hyd, ARGLWYDD, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?

5Dy bobl, ARGLWYDD, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.

6Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.

7Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.

8Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?

11Gŵyr yr ARGLWYDD feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.

12Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:

13I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.

14Canys ni ad yr ARGLWYDD ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?

17Oni buasai yr ARGLWYDD yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.

18Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.

19Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.

20A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa i mi: a’m DUW yw craig fy nodded.

23Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help