Y Salmau 140 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 140I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Gwared fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:

2Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.

3Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.

4Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.

5Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.

6Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.

7 ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.

9Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.

10Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.

11Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.

12Gwn y dadlau yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help