1Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O ARGLWYDD: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri.
2Wele, DUW yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth.
3Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth.
4A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef.
5Cenwch i’r ARGLWYDD; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir.
6Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
