Y Salmau 39 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 39Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.

1Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.

2Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd.

3Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.

4 ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.

5Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.

6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl.

7Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti.

8Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.

9Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.

10Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.

11Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.

12Gwrando fy ngweddi, ARGLWYDD, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.

13Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help