Esra 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i ARGLWYDD DDUW Israel;

2Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich DUW chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni i fyny yma.

3Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n DUW ni; eithr nyni a gyd-adeiladwn i ARGLWYDD DDUW Israel, megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia.

4A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu,

5Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia.

6Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.

7Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.

8Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:

9Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,

10A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.

11Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin; Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.

12Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.

13Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd.

14Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin,

15Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.

16Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.

17Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser.

18Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.

19A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a gwrthryfel.

20A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.

21Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.

22A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?

23Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.

24Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help