1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau gynnau bob amser.
3O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr ARGLWYDD, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.
4Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr ARGLWYDD bob amser.
5A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.
6A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr ARGLWYDD.
7A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.
8Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr ARGLWYDD bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.
9A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol.
10A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.
11A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr ARGLWYDD, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.
12A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr ARGLWYDD beth a wnaent.
13A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
14Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.
15A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei DDUW, a ddwg ei bechod.
16A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr ARGLWYDD; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr ARGLWYDD.
17A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
18A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
19A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
20Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
21A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.
22Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich DUW.
23A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
