1Ac wedi iddynt swperu, hwy a ddygasant Tobeias i mewn ati hi;
2Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau Raffael, ac a gymerth farwydos yr aroglau, ac a roddes arnynt galon y pysgodyn, a’i afu, ac a wnaeth fwg â hwynt.
3Pan aroglodd y cythraul yr arogl hwnnw, efe a ffodd i oruchafion yr Aifft: a’r angel a’i rhwymodd ef.
4Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu cau i mewn, Tobeias a gyfododd o’i wely, ac ddywedodd wrth Sara, Cyfod, fy chwaer, gweddïwn yr Arglwydd, ar iddo fod yn drugarog wrthym.
5Yna y dechreuodd Tobeias ddywedyd, Bendigedig wyt ti, O Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy enw sanctaidd gogoneddus yn dragwyddol: bendiged y nefoedd a’th greaduriaid oll dydi.
6Tydi a wnaethost Adda, ac a roddaist Efa ei wraig yn gymorth ac yn nerth iddo: ohonynt y daeth pob rhyw ddyn: ti a ddywedaist, Nid da bod gŵr yn unig, gwnawn iddo gymorth cyffelyb iddo.
7Ac yr awron, Arglwydd, nid er mwyn godineb yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, eithr mewn uniawnfryd: yn drugarog gan hynny gwna i ni heneiddio ynghyd.
8A hi a ddywedodd gydag ef, Amen.
9Ac felly y cysgasant ill dau y nos honno. A phan gyfododd Raguel i fyny, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,
10Gan ddywedyd, Y mae arnaf ofn ei farw ef.
11Ac wedi dyfod Raguel i’w dŷ,
12Efe a ddywedodd wrth Edna ei wraig, Anfon un o’r morynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallom ei gladdu ef heb wybod i neb.
13A’r forwyn a agorodd y drws, ac a aeth i mewn, ac a’u cafodd hwynt ill dau yn cysgu.
14A phan ddaeth allan, hi a fynegodd iddynt ei fod ef yn fyw.
15Yna Raguel a foliannodd Dduw, gan ddywedyd, Bendigedig ydwyt ti, O Dduw, â phob duwiol a sanctaidd fendith: bendiged dy saint dydi, a’th greaduriaid oll; a chwbl o’th angylion a’th etholedigion, molant di byth bythoedd.
16Bendigedig fych, O Arglwydd, am i ti fy llawenhau i, ac na ddaeth i mi fel yr oeddwn yn tybied; eithr ti a wnaethost i ni yn ôl dy fawr drugaredd.
17A bendigedig fyddych, am i ti drugarhau wrth ddau unig-anedig. Dangos iddynt drugaredd, O Arglwydd; diwedda eu bywyd mewn iechyd, gyda llawenydd a thrugaredd.
18Yna yr archodd Raguel i’w weision lenwi’r bedd.
19Ac efe a gadwodd y neithior bedwar diwrnod ar ddeg:
20Canys Raguel cyn cyflawni dyddiau’r neithior a ddywedasai wrtho, gan dyngu, nad âi efe ymaith nes darfod cyflawni dyddiau’r neithior, nid amgen pedwar diwrnod ar ddeg;
21Ac yna y câi efe hanner ei dda ef, a dychwelyd yn iach at ei dad; ac y câi efe y rhan arall, pan fyddwyf fi a’m gwraig farw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
