Y Salmau 100 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 100Salm o foliant.

1Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.

3Gwybyddwch mai yr ARGLWYDD sydd DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

4Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.

5Canys da yw yr ARGLWYDD: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help