Ecclesiasticus (Sirach) 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 14

1Gwyn ei fyd y gŵr ni lithrodd â’i enau, ac ni phigwyd â lliaws o bechodau.

2Gwyn ei fyd yr hwn ni chondemnio ei enaid ei hun ef, a’r hwn ni syrthio oddi wrth ei obaith yn yr Arglwydd.

3Nid da yw cyfoeth i ŵr cybydd; a pha beth a wnâi gŵr cenfigennus â golud?

4Yr hwn sydd yn casglu, gan arbed oddi wrtho ei hun, sydd yn casglu i arall; ac eraill a lythinebant ei dda ef.

5Yr hwn sy ddrwg iddo ei hun, i bwy y bydd efe yn dda? ni chaiff efe lawenydd o’i olud.

6Nid oes neb waeth na’r hwn sydd yn cenfigennu wrtho ei hun; a dyma wobr ei ddrygioni ef:

7Os gwna efe ddaioni, nid o’i fodd y gwna: ac o’r diwedd efe a wna ei ddrygioni yn amlwg.

8Drwg yw golwg y cenfigennus: efe a dry ei wyneb, ac a ddirmyga ddynion.

9Llygad y cybydd ni lenwir â’i ran; ac anghyfiawnder y drygionus a wywa ei enaid ef.

10Llygad drwg sy genfigennus am ei fara, ac y mae efe yn grintach ar ei fwrdd.

11Fy mab, pa fodd bynnag y byddo gennyt ti, bydd dda wrthyt dy hun, a dwg dy offrymau i’r Arglwydd yn addas.

12Cofia nad oeda angau, ac na ddangoswyd i ti gyfamod uffern.

13Cyn dy farw bydd dda wrth dy gyfaill; ac yn ôl dy allu, estyn dy law a dod iddo ef.

14Na thwylla dydi dy hun am y dydd da, ac nac aed rhan chwant da heibio i ti.

15Onid i arall y gadewi di dy lafur, a’r hyn y cymeraist boen amdano, i’w rannu wrth goelbren?

16Dod, a derbyn, a sancteiddia dy enaid; oherwydd nid gwiw ceisio bwyd yn y bedd.

17Pob cnawd a heneiddia fel dilledyn; canys y cyfamod o’r dechrau yw, Ti a fyddi farw yn ddiau.

18Fel o’r dail gleision ar bren brigog y mae rhai yn syrthio, a rhai yn torri allan; felly y mae cenhedlaeth cig a gwaed; y naill sydd yn marw, a’r llall yn geni.

19Pob gwaith a bydra ac a dderfydd; a’r hwn sydd yn ei weithio ef a â gydag ef.

20Gwyn ei fyd y gŵr a fyfyria bethau da mewn doethineb, a’r hwn yn synhwyrol a ymresyma am bethau sanctaidd.

21Yr hwn a feddwl am ei ffyrdd hi yn ei galon; a fydd deallgar yn ei dirgeledigaethau hi.

22Dos ar ei hôl hi fel olrheiniwr, a chynllwyn yn ei ffyrdd hi.

23Yr hwn a edrycho trwy ei ffenestri hi, a wrendy hefyd wrth ei dorau hi.

24Yr hwn a letyo yn agos i’w thŷ hi, ac a yrro ei hoel i’w pharwydydd hi,

25Efe a esyd ei babell gerllaw iddi, ac a letya yn llety y rhai daionus.

26Efe a esyd ei feibion dan ei chysgod hi, ac a erys dan ei changhennau hi.

27Hi a’i cysgoda ef rhag y gwres, ac efe a letya yn ei gogoniant hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help