1Y mae y brodyr, yr Iddewon sydd yn Jerwsalem ac yng ngwlad Jwdea, yn dymuno i’r brodyr o Iddewon sydd yn yr Aifft, iechyd a heddwch.
2Duw a wnelo ddaioni i chwi, ac a gofio ei gyfamod a wnaeth efe ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob, ei ffyddlon weision;
3Ac a roddo galon i chwi oll i’w wasanaethu ef, ac i wneuthur ei ewyllys ef â chalon gysurus, ac â meddwl ewyllysgar;
4Ac a agoro eich calon chwi yn ei gyfraith a’i orchmynion, ac a drefno i chwi dangnefedd;
5A wrandawo ar eich gweddïau chwi, a gymodo â chwi, ac na’ch gadawo byth yn amser adfyd.
6Ac yn awr yr ydym ni yn gweddïo yma drosoch chwi.
7Pan oedd Demetrius yn teyrnasu yn y nawfed flwyddyn a thrigain a chant, nyni yr Iddewon a sgrifenasom atoch yn y blinder a’r gorthrymder a ddaeth arnom ni o fewn y blynyddoedd hynny, er pan aeth Jason a’r rhai oedd gydag ef allan o’r wlad sanctaidd a’r frenhiniaeth,
8Ac y llosgasant y porth, ac y tywalltasant waed gwirion: ninnau a weddiasom ar yr Arglwydd, ac a gawsom ein gwrando; ac a offrymasom ebyrth a pheilliaid, ac a oleuasom lusernau, ac a osodasom y bara allan.
9Am hynny yn awr edrychwch ar gadw dyddiau gŵyl y pebyll yn y mis Casleu.
10Yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain a chant, y bobl oedd yn Jerwsalem ac yn Jwdea, a’r cyngor, a Jwdas, sydd yn dymuno llwyddiant a iechyd i Aristobulus, athro’r brenin Ptolemeus, yr hwn sydd o hiliogaeth yr offeiriaid eneiniog, ac i’r Iddewon yn yr Aifft.
11Yn gymaint â bod i Dduw ein gwaredu ni oddi wrth fawr beryglon, yr ydym yn rhoddi mawr ddiolch iddo, megis pe buasem yn rhyfela yn erbyn brenin:
12Canys efe a’u bwriodd hwynt allan, y rhai a ymladdasant yn erbyn y ddinas sanctaidd.
13Canys pan ddaethai y capten i Persia â llu a dybid yn anorchfygol gydag ef, fe a’u lladdwyd hwy yn nheml Nanea, trwy ddichell offeiriaid Nanea.
14Canys Antiochus a ddaeth yno megis i’w phriodi, efe a’i geraint gydag ef, i dderbyn arian yn enw cynhysgaeth.
15Ond wedi i offeiriaid Nanea eu rhifo, a myned ohono i mewn i’r deml heb nemor gydag ef, hwy a gaeasant y deml, wedi dyfod Antiochus i mewn,
16Ac a agorasant ddrws dirgel ar nen y deml, ac a daflasant gerrig megis saethau mellt, ac a drawsant i lawr y capten a’i wŷr; ac wedi eu dryllio yn ddarnau, hwy a dorasant eu pennau, ac a’u taflasant at y rhai oedd oddi allan.
17Bendigedig fyddo ein Duw ni ym mhob peth, yr hwn a roddes i fyny yr annuwiol.
18Gan ein bod ni â’n bryd ar gadw puredigaeth y deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Casleu, ni a welsom fod yn angenrheidiol fynegi hyn i chwi; fel y gallech chwithau hefyd ei gadw fel dydd gŵyl y pebyll, a gŵyl y tân, yr hwn a roddwyd i ni pan offrymodd Nehemeias aberth, wedi iddo adeiladu’r deml a’r allor.
19Canys yn y cyfamser yr arweiniwyd ein tadau i Persia, yr offeiriaid, addolwyr Duw y pryd hynny, a gymerasant y tân yn ddirgel oddi ar yr allor, ac a’i cuddiasant mewn dyffryn, lle yr oedd pydew dwfn a sych: ac yno y cadwasant ef, fel na wyddai neb y man hwnnw.
20Yn awr wedi llawer o flynyddoedd, pan welodd Duw yn dda, Nehemeias, pan yrrwyd ef oddi wrth frenin Persia, a yrrodd rai o epil yr offeiriaid a’i cuddiasai ef, at y tan: ond pan fynegasant wrthym na chawsant ddim tân, ond dwfr tew,
21Yna y gorchmynnodd efe iddynt ei gyrchu i fyny, a’i ddwyn ef: ac wedi gosod yr aberthau, Nehemeias a orchmynnodd i’r offeiriaid daenellu’r dwfr ar y coed a’r pethau oedd arnynt.
22Wedi darfod hyn, a dyfod yr amser i’r haul i lewyrchu, yr hwn o’r blaen oedd dan gwmwl, fe enynnodd tân mawr, fel y rhyfeddodd pawb.
23A thra oedd yr aberth yn darfod, yr holl offeiriaid oedd yn gweddïo, Jonathan yn gyntaf, a’r lleill yn ateb fel Nehemeias.
24A’r weddi oedd fel hyn; O Arglwydd Dduw, Gwneuthurwr pob peth, yr hwn wyt ofnadwy a chadarn, cyfiawn a thrugarog, a’r unig a’r grasol Frenin;
25Ti yn unig wyt hael, uniawn, hollalluog, a thragwyddol; ti, yr hwn wyt yn gwaredu Israel o’u holl flinder, yr hwn a etholaist y tadau, ac a’u sancteiddiaist hwy,
26Derbyn aberth dros dy holl bobl Israel, cadw dy ran, a sancteiddia hi.
27Casgl ynghyd y rhai a wasgarwyd oddi wrthym, a gwared y rhai sydd yn gwasanaethu’r Cenhedloedd; edrych ar y dirmygus a’r ffiaidd, a gad i’r Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw ni.
28Cosba ein gorthrymwyr, a’r rhai sy trwy falchedd yn gwneuthur cam â ni.
29Gosod dy bobl eilwaith yn dy le sanctaidd, megis y llefarodd Moses.
30Yr offeiriaid hefyd a ganent salmau diolch.
31Hefyd wedi ysu’r aberth, Nehemeias a orchmynnodd dywallt y dwfr oedd yng ngweddill ar y cerrig mawrion.
32Yr hwn beth pan wnaethpwyd, fe a enynnodd fflam: ond hi a ddiffoddwyd gan y goleuni oedd yn llewyrchu oddi ar yr allor.
33Pan wybuwyd y peth hyn, fe fynegwyd i frenin Persia mai yn y fan lle y cuddiasai’r offeiriaid a arweiniesid ymaith, y tân, yr ymddangosodd dwfr, â’r hwn y purodd Nehemeias, a’r rhai oedd gydag ef, yr ebyrth.
34Y brenin a chwiliodd y peth yn ddyfal, ac a amgylchynodd y lle o’i amgylch, ac a’i gwnaeth yn sanctaidd.
35A’r brenin a gymerth roddion lawer, ac a roddes ohonynt i’r rhai yr oedd efe yn chwennych gwneuthur cymwynas iddynt.
36A Nehemeias a alwodd y peth hwnnw Naffthar; yr hwn yw, o’i ddeongl, Puredigaeth: ond llawer rhai a’i galwant Neffi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.