Galarnad 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol.

2Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo’r crochenydd!

3Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i’w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch.

4Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt.

5Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.

6Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni.

7Purach oedd ei Nasareaid hi na’r eira, gwynnach oeddynt na’r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na’r cwrel, a’u trwsiad oedd o saffir.

8Duach yw yr olwg arnynt na’r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn; gwywodd, aeth yn debyg i bren.

9Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na’r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes.

10Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.

11Yr ARGLWYDD a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

12Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a’r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.

13Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o’i mewn hi;

14Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â’u dillad hwynt.

15Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach.

16Soriant yr ARGLWYDD a’u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr.

17Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.

18Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.

19Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.

20Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

21Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

22Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â’th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help