Datguddiad 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A rhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:

2A hi’n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor.

3A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.

4A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.

5A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn: a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef.

6A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau.

7A bu rhyfel yn y nef: Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau,

8Ac ni orfuant; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.

9A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd: efe a fwriwyd allan i’r ddaear, a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef.

10Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.

11A hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.

12Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a’r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a’r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.

13A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.

14A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i’r diffeithwch, i’w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.

15A’r sarff a fwriodd allan o’i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon.

16A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a’r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn.

17A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help