1Fy mab, na thwylla’r tlawd am ei fywyd, ac na wna i lygaid anghenus hir ddisgwyl.
2Na thristâ enaid newynog, ac na wna i ŵr yn ei eisiau hir ddisgwyl.
3Na chwanega flinder ar galon gystuddiol, ac na wna i’r anghenog hir ddisgwyl am ei rodd.
4Na fwrw ymaith ymbiliwr gorthrymedig, ac na thro dy wyneb oddi wrth y tlawd.
5Na thro dy lygaid oddi wrth yr anghenus, ac na ddod le i ddyn i’th felltithio di:
6Canys os efe a’th felltithia di yn chwerwder ei enaid, yr hwn a’i gwnaeth ef a wrendy ei weddi ef.
7Gwna dy hun yn hawddgar i’r gynulleidfa, a gostwng dy ben i ŵr mawr.
8Gostwng dy glust at y tlawd yn ddidrist, ac ateb ef yn heddychol ac yn llednais.
9Gwared yr hwn sydd yn cael cam, o law yr hwn fydd yn gwneuthur cam: ac na fydd lwfr pan eisteddych i farnu.
10Bydd i’r amddifad fel tad, ac yn lle gŵr i’w mam hwynt; a thi a gei fod megis yn fab i’r Goruchaf; ac efe a’th gâr di yn fwy na’th fam.
11Doethineb a ddyrchafa ei meibion, ac a dderbyn y rhai a’i ceisiant.
12Yr hwn sydd yn ei charu hi, sydd yn caru einioes; a’r rhai a ddisgwyliant amdani hi yn fore, a lenwir â llawenydd.
13Yr hwn a’i dalio hi, a etifedda ogoniant; a’r Arglwydd a fendithia’r lle yr êl hi i mewn.
14Y rhai sydd yn ei gwasanaethu hi, sydd yn gwasanaethu’r Sanctaidd; ac y mae’r Arglwydd yn caru y rhai sydd yn ei charu hi.
15Yr hwn sydd yn gwrando arni hi, a farna genhedloedd; a’r hwn a wrandawo arni hi, a breswylia’n ddiogel.
16Os un a ymddyry iddi, efe a’i caiff hi yn etifeddiaeth, a’i hiliogaeth a gaiff fod mewn meddiant ohoni.
17Canys ar y cyntaf hi a rodia gydag ef ar ffyrdd gwyrgeimion, ac a ddwg ofn ac arswyd arno ef, ac a’i poena ef â’i haddysg, nes gallu ohoni ymddiried i’w enaid ef, ac oni phrofo hi ef yn ei chyfiawnderau:
18Yna hi a ddaw yn union ato ef, ac a’i llawenycha ef, ac a ddatguddia ei dirgelwch iddo.
19Os cyfeiliorna efe, hi a’i gad ef, ac a’i dyry i fyny i’w gwymp ei hun.
20Cadw’r amser cyfaddas, ac ymgadw rhag drygioni; ac na fydded cywilydd gennyt pan berthyno i’th enaid.
21Canys y mae cywilydd yn dwyn pechod; ac y mae cywilydd yn anrhydedd a gras.
22Na dderbyn wyneb yn erbyn dy enaid dy hun, ac na pharcha neb i’th ddinistr dy hun.
23Na atal air yn amser iachawdwriaeth, ac na chuddia dy ddoethineb yn ei harddwch.
24Oblegid wrth ymadrodd yr adwaenir doethineb, ac addysg wrth eiriau’r tafod.
25Na ddywed yn erbyn y gwirionedd er dim, ond bydded wladaidd gennyt dy anwybodaeth.
26Na fydded gywilydd gennyt gyfaddef dy bechodau, ac nac ymegnïa yn erbyn y ffrwd.
27Nac ymddyro i ddyn ffôl, ac na dderbyn wyneb y galluog.
28Ymegnïa gyda’r gwirionedd hyd farwolaeth; a’r Arglwydd Dduw a ymladd gyda thithau.
29Na fydd esgud â’th dafod, a diog ac araf yn dy weithredoedd.
30Na fydd megis llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy ffansi.
31Na fydded dy law yn agored i gymryd, ac yn gaead i roddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.