Diarhebion 25 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.

2Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.

3Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.

4Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr.

5Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.

6Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr:

7Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.

8Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.

9Ymresyma â’th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall:

10Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith.

11Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.

12Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

13Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

14Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

15Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

16Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

17Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu.

18Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

19Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

20Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist.

21Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed:

22Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti.

23Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.

24Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

25Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.

26Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.

27Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw.

28Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help