Deuteronomium 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;

2Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac?

3Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrthyt.

4Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr ARGLWYDD fi i feddiannu’r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr ARGLWYDD hwynt allan o’th flaen di.

5Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

6Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr ARGLWYDD i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.

7Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD.

8Yn Horeb hefyd y digiasoch yr ARGLWYDD; a digiodd yr ARGLWYDD wrthych, i’ch difetha.

9Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.

10A rhoddes yr ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys DUW; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.

11A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.

12A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

13A llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.

14Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt-hwy.

15A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.

16Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr ARGLWYDD i chwi.

17A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid.

18A syrthiais gerbron yr ARGLWYDD, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD i’w ddigio ef.

19(Canys ofnais rhag y soriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr ARGLWYDD wrthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y waith honno hefyd.

20Wrth Aaron hefyd y digiodd yr ARGLWYDD yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.

21Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd.

22O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r ARGLWYDD.

23A phan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr ARGLWYDD eich DUW: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD er y dydd yr adnabûm chwi.

25A mi a syrthiais gerbron yr ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r ARGLWYDD y difethai chwi.

26Gweddïais hefyd ar yr ARGLWYDD, a dywedais, ARGLWYDD DDUW, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref.

27Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

28Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o’r ARGLWYDD eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.

29Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help