I Esdras 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 8

1Ac wedi’r pethau hyn, pan oedd Artacsercses brenin y Persiaid yn teyrnasu, y daeth Esdras mab Saraias, fab Esereias, fab Helcias, fab Salum,

2Fab Saduc, fab Achitob, fab Amareias, fab Oseias, fab Memeroth, fab Saraias, fab Sanias, fab Boccas, fab Abisun, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf.

3Yr Esdras hwn a aeth i fyny o Babilon, fel ysgrifennydd parod iawn yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasid trwy Dduw Israel.

4Y brenin hefyd a roddodd iddo ef anrhydedd: canys efe a gafodd ffafr ger ei fron ef yn ei holl ddymuniadau.

5Gydag ef hefyd yr aeth i fyny rai o blant Israel, o’r offeiriaid, o’r Lefiaid, o’r cantorion sanctaidd, ac o’r porthorion, a gweinidogion y deml, i Jerwsalem,

6Yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses, ar y pumed mis; hon ydoedd y seithfed flwyddyn i’r brenin: canys hwy a aethant o Babilon y dydd cyntaf o’r mis cyntaf, ac a ddaethant i Jerwsalem, fel y rhoddodd yr Arglwydd rwydd-deb iddynt yn eu taith.

7Oherwydd yr oedd gan Esdras gyfarwyddyd mawr, fel na adawodd efe heibio ddim o gyfraith a gorchmynion yr Arglwydd, ond efe a ddysgodd i holl Israel y deddfau a’r barnedigaethau.

8Felly copi’r gorchymyn a sgrifennwyd oddi wrth Artacsercses y brenin, ac a ddaeth at Esdras yr offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, yw hwn sydd yn canlyn:

9Y brenin Artacsercses at Esdras yr offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, yn anfon annerch:

10Yn gymaint â’m bod i yn bwriadu gwneuthur yn raslon, myfi a orchmynnais i’r neb a fynnent ac a ewyllysient o genedl yr Iddewon, ac o’r offeiriaid, ac o’r Lefiaid, y rhai sydd yn ein brenhiniaeth ni, gael myned gyda thi i Jerwsalem.

11Am hynny cynifer ag a ewyllysiant hynny, ymadawant gyda thi, fel y gwelwyd yn dda gennyf fi a’m saith gyfaill y cynghorwyr;

12Fel yr edrychont ar y pethau sydd yn Jwdea a Jerwsalem yn gytûn, a’r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd;

13Ac y dygont i Arglwydd Israel i Jerwsalem y rhoddion a addunais i, mi a’m cyfeillion, a’r holl aur a’r arian a gaffer yng ngwlad Babilon, i’r Arglwydd yn Jerwsalem;

14Gyda’r hyn a roddodd y bobl hefyd i deml yr Arglwydd eu Duw yn Jerwsalem: ac y casgler arian ac aur tuag at fustych, a hyrddod, ac ŵyn, a phethau yn perthynu at hynny;

15Fel yr offrymont ebyrth i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd eu Duw, yr hon sydd yn Jerwsalem.

16A pha beth bynnag a’r a ewyllysiech di a’th frodyr â’r arian ac â’r aur, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw.

17A’r llestri sanctaidd, y rhai a roddwyd i ti tuag at gyfraid teml dy Dduw, yr hon sydd yn Jerwsalem, tydi a’u gosodi hwynt gerbron dy Dduw yn Jerwsalem.

18A pha beth bynnag arall a’r a feddyliech di tuag at gyfraid teml dy Dduw, ti a’i rhoddi ef allan o drysor y brenin.

19A myfi y brenin Artacsercses a orchmynnais i drysorwyr Syria a Phenice, am iddynt hwy roddi yn rhwydd i Esdras yr offeiriad a darllenydd cyfraith y Duw goruchaf, beth bynnag a’r a anfono efe amdano,

20Hyd gan talent o arian, a hefyd hyd gan corus o ŷd, a chan tunnell o win, a phethau eraill yn ddiandlawd.

21Gwneler pob peth i’r goruchaf Dduw yn ddyfal, yn ôl cyfraith Dduw, fel na ddelo digofaint ar frenhiniaeth y brenin a’i feibion.

22Hefyd yr ydwyf yn gorchymyn i chwi, na cheisioch na theyrnged na threth gan yr offeiriaid, na’r Lefiaid, na’r cantorion sanctaidd, na’r porthorion, na gweinidogion y deml, nac oddi ar weithwyr y deml hon, ac na byddo awdurdod i neb i drethu dim arnynt hwy.

23A thithau Esdras, yn ôl doethineb Duw, gosod farnwyr a llywiawdwyr, fel y barnont trwy holl Syria a Phenice, y rhai oll sy ddysgedig yng nghyfraith dy Dduw; a’r rhai annysgedig ynddi a ddysgi di:

24A chosber yn ddyfal y rhai oll a’r a droseddant gyfraith dy Dduw a’r brenin, pa un bynnag a’i trwy farwolaeth, ai rhyw gosbedigaeth arall, trwy ddirwy o arian, neu garchar.

25Yna Esdras yr ysgrifennydd a ddywedodd, Bendigedig fyddo unig Arglwydd Dduw fy nhadau, yr hwn a roddodd y meddwl yma yng nghalon y brenin, i ogoneddu ei dŷ ef, yr hwn sydd yn Jerwsalem;

26Ac a’m hanrhydeddodd i yng ngolwg y brenin a’i gynghoriaid, a’i holl gyfeillion ef, a’r pendefigion.

27Am hynny yr oeddwn i yn gysurus trwy gynhorthwy’r Arglwydd fy Nuw, ac a gesglais wŷr o Israel, i fyned i fyny gyda mi.

28A dyma’r blaenoriaid, yn ôl eu teuluoedd a’u rhagorfraint, y rhai a aethant i fyny gyda mi o Babilon yn nheyrnasiad y brenin Artacsercses.

29O feibion Phinees, Gerson; o feibion Ithamar, Gamael; o feibion Dafydd, Lettus mab Sechaneias:

30O feibion Phares, Sachareias; a chydag ef y cyfrifwyd cannwr a deg a deugain:

31O feibion Pahath-moab, Eliaonias mab Sacaias; a chydag ef ddeucant o wŷr:

32O feibion Satho, Secheneias mab Jeselus; a chydag ef dri chant o wŷr: o feibion Adin, Obeth mab Jonathan; a chydag ef ddeucant a deg a deugain o wŷr:

33O feibion Elam, Joseias mab Gotholeias; a chydag ef ddengwr a thrigain;

34O feibion Saffatias, Saraias mab Michael: a chydag ef ddengwr a thrigain:

35O feibion Joab, Abadias mab Jeselus; a chydag ef ddeuddengwr a dau cant:

36O feibion Banid, Assalimoth mab Josaffias; a chydag ef drigeinwr a chant:

37O feibion Babi, Sachareias mab Bebai; a chydag ef wythwyr ar hugain;

38O feibion Astath, Johannes mab Acatan; a chydag ef ddengwr a chant:

39O feibion Adonicam y diwethaf; a dyma eu henwau hwynt, Eliffalet, Jeuel, a Samaias; a chyda hwynt ddengwr a thrigain:

40O feibion Bago, Uthi fab Istalcurus; a chydag ef ddengwr a thri ugain.

41Ac mi a gesglais y rhai hyn ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, lle y gwersyllasom dri diwrnod: ac mi a fwriais olwg arnynt.

42Ond pan na chefais yno’r un o’r offeiriaid, na’r Lefiaid,

43Yna mi a anfonais at Eleasar, ac Iduel, a Masman,

44Ac Alnathan, a Mameias, a Joribas, a Nathan, Eunathan, Sachareias, a Mosolamon, penaethiaid a gwŷr dysgedig;

45Ac mi a erchais iddynt fyned at Sadeus y pennaeth, yr hwn oedd yn y drysorfa;

46Ac a orchmynnais iddynt ddywedyd wrth Dadeus, ac wrth ei frodyr, a’r trysorwyr oedd yno, anfon i mi rai i offeiriadu yn nhŷ’r Arglwydd.

47A hwy a ddygasant i ni trwy law nerthol yr Arglwydd, wŷr dysgedig o feibion Moli mab Lefi fab Israel, Asebebeia a’i feibion a’i frodyr, y rhai oedd dri ar bymtheg:

48Ac Asebeia, ac Annuus, ac Oseias ei frawd, o feibion Channuneus, a’u meibion hwy, oedd ugeinwr.

49Ac o weision y deml, y rhai a ordeiniasai Dafydd, a’r gwŷr pennaf i wasanaeth y Lefiaid, sef gweision y deml, ugain a dau cant o rifedi, enwau y rhai a ddangoswyd.

50Ac yna mi a gyhoeddais ympryd i’r gwŷr ieuainc gerbron ein Harglwydd, i ddeisyf ganddo ef daith lwyddiannus i ni ac i’r rhai oedd gyda ni, i’n plant, ac i’r anifeiliaid;

51Canys yr oedd yn gywilydd gennyf ofyn i’r brenin wŷr traed, a gwŷr meirch, a rhai i’n tywyso’n ddiogel yn erbyn ein gwrthwynebwyr:

52Oherwydd ni a ddywedasem wrth y brenin y byddai nerth yr Arglwydd ein Duw ni gyda’r neb a’i ceisient ef, i’w cynnal hwynt ym mhob ffordd.

53A ni a weddiasom ar ein Harglwydd eilwaith oherwydd y pethau hyn: ac ni a’i cawsom ef yn raslon i ni.

54Yna myfi a neilltuais o’r rhai pennaf o’r offeiriaid ddeuddengwr, Esebrias, ac Asaneias, a deg o’u brodyr gyda hwynt.

55Ac mi a bwysais iddynt hwy yr aur a’r arian, a llestri sanctaidd tŷ’r Arglwydd, y rhai a roddasai’r brenin, a’i gynghoriaid, a’r tywysogion, a holl Israel.

56Ac mi a bwysais ac a roddais iddynt chwe chant a deg a deugain o dalentau arian, a llestri arian o gan talent, a chan talent o aur.

57Ac ugain o lestri aur, a deuddeg o lestri pres, o bres gloyw yn disgleirio fel aur.

58Ac mi a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn sanctaidd i’r Arglwydd, a’r llestri hefyd ydynt sanctaidd, a’r aur a’r arian sydd yn adduned i’r Arglwydd, Arglwydd ein tadau:

59Gwyliwch a chedwch hwynt hyd oni roddoch hwynt i benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a thywysogion teuluoedd Israel yn Jerwsalem, o fewn stafelloedd tŷ ein Duw ni.

60Felly’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a dderbyniasant yr arian a’r aur, a’r llestri, a’u dygasant i Jerwsalem, i deml yr Arglwydd.

61Ac ni a ymadawsom oddi wrth afon Theras y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf, ac a ddaethom i Jerwsalem trwy nerthol law ein Harglwydd, yr hon oedd gyda ni: a’r Arglwydd a’n gwaredodd ni o ddechrau ein taith rhag ein gelynion: ac felly ni a ddaethom i Jerwsalem.

62Ac wedi ein bod ni yno dridiau, ar y pedwerydd dydd y rhoddwyd yr arian pwysedig, a’r aur, yn nhŷ ein Harglwydd ni, i Marmoth yr offeiriad, mab Iri;

63A chydag ef yr oedd Eleasar mab Phinees; a chyda hwynt yr oedd Josabad mab Jesu, a Möeth mab Sabban, y Lefiaid: y cwbl a roddwyd iddynt dan rifedi a phwys.

64A’u holl bwys hwynt a sgrifennwyd yr awr honno.

65Hefyd y rhai a ddaethent o’r gaethglud a offrymasant ebyrth i Arglwydd Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, un ar bymtheg a phedwar ugain o hyrddod,

66Deuddeg a thrigain o ŵyn, deuddeg o eifr yn aberth hedd; y cwbl yn aberth i’r Arglwydd.

67A hwy a roddasant orchymyn y brenin i ddistain y brenin, ac i lywiawdwyr Celo-Syria a Phenice, y rhai a anrhydeddasant y bobl a theml Dduw.

68Wedi gwneuthur y pethau hyn, y llywiawdwyr a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd,

69Cenedl Israel, y tywysogion, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, ni fwriasant ymaith oddi wrthynt bobl ddieithr y wlad, nac aflendid y cenhedloedd, sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, a’r Moabiaid, yr Eifftiaid, a’r Edomiaid;

70Canys hwy a briodasant eu merched hwy, hwynt-hwy a’u meibion, a’r had sanctaidd a gymysgwyd â phobl ddieithr y wlad; a’r llywiawdwyr a’r penaethiaid a fuant gyfranogion o’r anwiredd yma, er dechreuad y peth.

71A phan glywais y pethau hyn, mi a rwygais fy nillad, a’r wisg sanctaidd, ac a dynnais flew fy mhen, a’m barf, ac a eisteddais i lawr yn drwm ac yn drist.

72Yna y rhai oll oeddynt wedi eu cynhyrfu trwy air Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant ataf fi, tra’r oeddwn i yn wylo am yr anwiredd: ond myfi a eisteddais yn drist iawn hyd y prynhawnol aberth.

73Yna myfi a gyfodais o ymprydio, a’m dillad a’r wisg sanctaidd wedi eu rhwygo, ac a benliniais, ac a estynnais fy nwylo at yr Arglwydd,

74Ac a ddywedais, O Arglwydd, gwaradwyddus a chywilyddus ydwyf ger dy fron di;

75Canys ein pechodau ni a amlhasant dros ein pennau, a’n hamryfusedd a gyrhaeddodd hyd y nef:

76Canys er amser ein tadau, ni a fuom ac ydym mewn pechod mawr, hyd y dydd hwn.

77Ac am ein pechodau ni a’n tadau, nyni a’n brodyr, a’n brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, a roddwyd i fyny i frenhinoedd y ddaear, i’r cleddyf, ac i gaethiwed, ac yn ysglyfaeth trwy gywilydd, hyd y dydd hwn.

78Ac yn awr y dangoswyd peth trugaredd i ni gennyt ti, O Arglwydd, fel y gadewid i ni wreiddyn ac enw yn dy gysegrfa,

79Ac i ddatguddio goleuni i ni yn nhŷ’r Arglwydd ein Duw, ac i roddi i ni fwyd yn amser ein caethiwed.

80Ie, pan oeddem ni mewn caethiwed, ni wrthododd ein Harglwydd mohonom ni; eithr efe a’n gwnaeth yn gymeradwy gerbron brenhinoedd Persia, fel y rhoddasant hwy fwyd i ni,

81Ac yr anrhydeddasant deml ein Harglwydd ni, ac y cyweiriasant anrheithiol leoedd Seion, ac y rhoddasant i ni drigfa sicr yn Jwdea ac yn Jerwsalem.

82Ac yn awr, O Arglwydd, beth a ddywedwn ni sy’n cael y pethau hyn? canys nyni a droseddasom dy orchmynion di, y rhai a roddaist ti i ni trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd,

83Fod y wlad, yr hon yr ydych chwi yn myned i’w hetifeddu, yn halogedig trwy aflendid dieithriaid y wlad, y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid.

84Am hynny yn awr na chysylltwch eich merched â’u meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwy i’ch meibion chwithau;

85Ac na cheisiwch heddychu â hwynt byth, fel y’ch gwneler yn gryfion, ac y caffoch chwi fwyta daioni’r wlad, a’i gadael hi i’ch meibion ar eich ôl chwi yn etifeddiaeth.

86Yr hyn oll hefyd a’r a ddaeth i ben, a wnaed i ni oblegid ein drwg weithredoedd a’n pechodau mawrion: canys tydi, Arglwydd, a ysgafnheaist ein pechodau ni,

87Ac a roddaist i ni y cyfryw wreiddyn: ond nyni a droesom yn ein hôl, gan dorri dy gyfraith di, ac a ymgymysgasom ag aflendid pobl y wlad.

88Oni ddylit ti fod yn ddicllon wrthym ni, i’n dinistrio, fel na adewit i ni na gwreiddyn, na had, nac enw?

89Tydi, O Arglwydd Israel, ydwyt eirwir: canys gadawyd i ni wreiddyn y dydd heddiw.

90Ac yn awr wele ni ger dy fron di yn ein pechodau; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di yn hwy oherwydd y pethau hyn.

91A phan oedd Esdras yn gweddïo, ac yn cyffesu, ac yn wylo, ac yn gorwedd ar y llawr o flaen y deml, yna tyrfa fawr a ymgasglasant ato ef o Jerwsalem, o wŷr, a gwragedd, a phlant: canys yr oedd galar mawr ymysg y dyrfa.

92Yna Jechoneias mab Jeelus, un o feibion Israel, a waeddodd, ac a ddywedodd, O Esdras, nyni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd Dduw, o achos i ni briodi gwragedd dieithr o genhedloedd y wlad; ac yn awr holl Israel a ddyrchafwyd.

93Tyngwn lw i’r Arglwydd, ar yrru ymaith ein holl wragedd sydd o’r cenhedloedd, ynghyd â’u plant:

94Fel yr ordeiniaist ti a’r holl rai sydd yn ufuddhau cyfraith yr Arglwydd.

95Cyfod i fyny, a gwna hyn: canys i ti y perthyn hyn, a ni a fyddwn gyda thi: gwna yn wrol.

96Yna Esdras a gyfododd, ac a wnaeth i holl benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid a holl Israel, dyngu y gwnaent hwy felly: a hwy a dyngasant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help