1Tithau fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac eillia dy ben a’th farf: yna y cymeri i ti gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt.
2Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae; traean a gymeri hefyd, ac a’i trewi â’r gyllell o’i amgylch; a thraean a daeni gyda’r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
3Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlyma hwynt yn dy odre.
4A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a’r tiroedd o’i hamgylch.
6A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd, a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd sydd o’i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a’m deddfau, ni rodiasant ynddynt.
7Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i chwi amlhau yn fwy na’r cenhedloedd sydd o’ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o’ch amgylch;
8Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd.
9A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd-dra.
10Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a’r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
11Am hynny, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â’th holl ffieidd-dra ac â’th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12Dy draean fyddant feirw o’r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt: a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
13Felly y gorffennir fy nig, ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ymgysuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais yn fy ngwŷn, pan orffennwyf fy llid ynddynt.
14A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o’th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio.
15Yna y bydd y gwaradwydd a’r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i’r cenhedloedd sydd o’th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais.
16Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i’w difetha, y rhai a ddanfonaf i’ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara:
17Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg; ac efe a’th ddiblanta di: haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.