Eseia 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr ARGLWYDD.

2Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd.

3Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid DUW; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr ARGLWYDD ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant.

4Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn ARGLWYDD y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.

5Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn ARGLWYDD y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

6Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho.

7Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

8A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth.

9Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr ARGLWYDD, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help