1Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea:
2Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yng Nghrist Iesu;
4Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
5Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
6Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
7Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i.
8Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9Anerchwch Urbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.
11Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.
13Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.
14Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt.
15Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
17Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
18Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.
19Canys eich ufudd-dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.
20A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
21Y mae Timotheus fy nghyd-weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch.
22Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.
23Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus.
24Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.
25I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;
26Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd:)
27I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.